Nantlais
Rhinweddau: Penderfyniadol
Arweinyddiaeth
Hyder
Elusen Ddewisol: Joseph's Smile. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.
Wedi'i enwi er cof am: Y Parch William Nantlais Williams
Eni: 1874, Pencader Marw: 1959
Teulu: Nantlais oedd yr ieuengaf o ddeg o blant. Bu’n rhaid iddo adael yr ysgol yn 12 oed pan fu farw ei frawd i ymgymryd â phrentisiaeth fel gwehydd.
Swydd: Dechreuodd bregethu yn ugain oed a daeth yn weinidog yng Nghapel Bethany yn Rhydaman ym 1900. Bu'n weinidog yno hyd at ei ymddeoliad ym 1944.
Roedd yn fardd ac yn siaradwr poblogaidd mewn cynadleddau ledled Cymru ac enillodd ei farddoniaeth yn yr iaith Gymraeg amryw wobrau iddo gan gynnwys sawl cadair farddol a Chadair yr eisteddfod genedlaethol ym 1902.
Roedd yn awdur ac yn gyfansoddwr emynau pwysig, yn enwedig emynau i blant. Cyhoeddodd hefyd nifer o ganeuon plant, yn ogystal â gweithiau cerddorol eraill. Gwobrwywyd ef am ei waith gan Brifysgol Cymru pan dderbyniodd MA er anrhydedd ym 1958.
Newyddion: Llongyfarchiadau i Nantlais am godi dros £1000 ar gyfer Joseph's Smile ar ôl Diwrnod Gwyrdd dros Joseph's Smile a gynhaliwyd yn hynod lwyddiannus ar 9fed Ebrill. Gellir gweld rhai lluniau o'r diwrnod isod.







Social Media