Images protected by Greenhouse School Websites
Quick Links

Quick Links Open/Close

Ysgol Dyffryn Aman

  • Search this websiteSearch Site
  • Instagram Instagram
  • Translate the contents of this page Translate Page
  • Facebook Facebook
Cymraeg English
Strip

Presenoldeb

×

Presenoldeb

Presenoldeb yn yr ysgol yw'r ffactor pwysicaf tu ôl canlyniadau llwyddiannus a datblygu lles emosiynol a chymdeithasol plentyn. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o bresenoldeb o 97% i bob plentyn. Mae hyn yn cyfateb i 6 diwrnod bant o'r ysgol yn ystod y flwyddyn. 

Os yw presenoldeb plentyn yn gostwng i 90% mae hyn yn golygu eu bod yn colli 20 diwrnod y flwyddyn. 

Os mae'n gostwng i 80%, yna mae'n cyfateb i 40 dydd mewn blwyddyn!

 

Beth gallwch chi wneud i helpu:

  • Gosod amser gwely rheolaidd ac arfer bore.
  • Trefnu apwyntiadau tu allan o oriau ysgol ble gallwch chi. 
  • Cyfathrebu a'r ysgol os yw eich plentyn yn absennol am unrhyw reswm.
  • Siarad â'ch plentyn dros y pwysigrwydd o fod yn bresennol a chymryd rhan mewn bywyd ysgol.

Er mwyn eich helpu i dracio a monitro presenoldeb eich plentyn, rydym yn anfon hysbysiadau rheolaidd drwy ap My Child at School (MCAS) byddwn yn anfon neges atoch os nad yw eich plentyn mewn ysgol ac nad ydych wedi darparu rheswm. 

Yn yr achosion prin pan fydd plentyn yn rhy sâl i fynychu'r ysgol, Rhowch wybod i ni drwy ap My Child at School (MCAS). 

Prydlondeb

Mae prydlondeb, neu beidio bod yn hwyr i wersi neu'r ysgol, yn gysylltiedig yn agos â phresenoldeb. Mae bod yn hwyr yn golygu colli amser, ac mae ganddo effaith enfawr hefyd ar eich lles, cyfeillgarwch, a dealltwriaeth. 

  • Mae 5 munud yn hwyr bob dydd yn cyfateb i golli 3 diwrnod y flwyddyn
  • Mae 10 munud yn hwyr bob dydd yn cyfateb i golli 6 diwrnod y flwyddyn
  • Mae 15 munud yn hwyr bob dydd yn cyfateb i golli 10 diwrnod y flwyddyn
  • Mae 20 munud yn hwyr bob dydd yn cyfateb i golli 13 diwrnod y flwyddyn
  • Mae 30 munud yn hwyr bob dydd yn cyfateb i golli 19 diwrnod y flwyddyn
Strip Strip ↑