Diogelwch Ar-lein
Yma yn Ysgol Dyffryn Aman rydym yn cymryd Diogelwch Ar-lein (rhyngrwyd wefan) yn difrifol iawn, trwy'r flwyddyn mae ein disgyblion yn derbyn addysg barhaol ynglŷn â pheryglon y rhyngrwyd. Rydym yn wneud hyn trwy wersi TGCh, gwersi bugeiliol, a gwasanaethau ysgol.
Ar y wefan hon gallwch ddarganfod llawer o wybodaeth a chyngor am bynciau sy'n berthnasol i Ddiogelwch Ar-lein a delio gyda digwyddiadau Diogelwch Ar-lein.
Rydym ymwybodol iawn gall disgyblion defnyddio amrywiaeth o ddyfeisiadau i gysylltu gyda'r rhyngrwyd tu allan i'r ysgol. Rydym yn annog rhieni / gwarcheidwaid i chwilio am gyngor os angen ar gadw eu plant yn ddiogel ar-lein tra gartref.
Cyngor am Rieni / Gwarcheidwaid
Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth a chyngor am rieni / gwarcheidwaid ar y gwefan Hwb Llywodraeth Cymru.
Awgrymiadau i Rieni / Gwarcheidwaid i Gadw Plant yn Ddiogel Ar-lein
1. Defnyddiwch feddalwedd hidlo rhyngrwyd a pheiriannau chwilio sy'n ddiogel am blant. Defnyddiwch eich rheolyddion gwefan achos mae rhai yn cynnig gwahanol raddau o ddiogelwch am bob aelod o'r teulu.
2. Edrychwch i mewn i ba wasanaethau diogelu plant mae eich Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd (ISP) yn cynnig - os ganddynt hidlwr am sbam, er enghraifft? Os na, gofynnwch pam.
3. Cadwch eich cyfrifiadur mewn ardal o'r tŷ ble mae'n haws i fonitro beth mae eich plant yn gwylio.
4. Gwnewch yn siŵr bod eich plant yn gwybod i ddim rhannu manylion personol. Os ydyn nhw eisiau tanysgrifio i unrhyw wasanaethau ar-lein, yna defnyddiwch gyfeiriad e-bost teuluol i dderbyn y bost.
5. Mae plant wrth ei bodd o siarad, ond gwnewch yn siŵr maent yn defnyddio ystafelloedd siarad wedi'i gymedroli ac anogwch nhw i gyflwyno chi i'w ffrindiau ar-lein.
6. Anogwch eich plant i ddweud wrthoch chi os ydyn nhw'n teimlo'n anghyfforddus, trist, neu dan fygythiad gan unrhywbeth rydyn nhw wedi gweld ar-lein.
7. Cynhwyswch eich plant mewn ysgrifennu cod teuluol ar gyfer defnydd derbyniol o'r rhyngrwyd. Cofiwch mai beth sy'n dderbyniol ar gyfer person mewn ei arddegau yn wahanol i blant oedran ysgol gynradd, felly defnyddiwch eu mewnbwn.
8. Mae offer cyfrifiadurol yn ddrud felly cadwch mewn cof efallai bydd plentyn gyda gliniadur yn agored i niwed wrth ei gario i mewn ac oddi wrth ysgol.
9. Mae'r rhyngrwyd yn adnodd arbennig am waith cartref, ond cofiwch i ddefnyddio mwy nag un gwefan wrth ymchwilio er mwyn cael gwybodaeth eang a chytbwys a chadwch lyfryddiaeth o'ch ffynonellau.
10. Ewch ar-lein gyda'ch plant a dewch yn rhan o'u bywyd ar-lein. Yr allwedd i fod yn ddiogel ar-lein yw cyfathrebu.
Dolenni Defnyddiol am Rieni / Gwarcheidwaid
Dolenni Diogelwch Ar-lein am Ddisgyblion
Rhestr Wirio Cyfryngau Cymdeithasol
-
facebook-checklist
download_for_offline
download_for_offlinefacebook-checklist
- instagram-checklist download_for_offline
download_for_offlineinstagram-checklist
- snapchat-checklist download_for_offline
download_for_offlinesnapchat-checklist
- instagram-checklist download_for_offline
↑








Social Media