Quick Links

Quick Links Open/Close

Ysgol Dyffryn Aman

  • Search this websiteSearch Site
  • Instagram Instagram
  • Translate the contents of this page Translate Page
  • Facebook Facebook
Cymraeg English
Strip

Rhaglen Fugeiliol

×

Rhaglen Fugeiliol

Dosbarthiadau Cofrestru

Pob bore mae'r myfyrwyr yn cwrdd â'i athro cofrestru ac mae'n rhan hanfodol o'r rhaglen fugeiliol y Chweched Dosbarth. Mae ein hathrawon cofrestru yn llawn profiad ac wedi gweithio gyda myfyrwyr y Chweched am sawl flwyddyn. 

Defnyddia amser cofrestru am:

  • Darparu cefnogaeth a mentoriaeth
  • Trafod materion bugeiliol, gan gynnwys y dyfodol, cyllid a.y.y.b
  • Cefnogi disgyblion yn eu cynnydd academaidd a gosod targedau
  • Cynllunio ceisiadau UCAS

Athrawon cofrestru sy'n ysgrifennu geirda UCAS am ddisgyblion a geirda am brentisiaethau a swyddi felly mae'r perthynas rhwng y disgybl a'r athro cofrestru yn bwysig iawn ac mae presenoldeb am gofrestru yn orfodol ond bod ddim gwersi gan y disgybl am weddill y dydd.

Gwasanaethau a Sesiynau Bugeiliol

Mae'r gwaith mewn dosbarthiadau cofrestru wedi'i ategu gan raglen o wasanaethau wythnosol a sesiynau bugeiliol ychwanegol sy'n cwmpasu ystod eang o bynciau gan gynnwys gyrru'n ofalus, sgiliau sylfaenol achub bywyd, cynllunio cyllid a chyllidebau, cynllunio gyrfaoedd ac opsiynau prifysgol.

Y Tîm Bugeiliol

Tu fewn tîm y Chweched Dosbarth rydym yn derbyn cymorth nifer o bobl y mae eu prif rôl yn darparu arweiniad bugeiliol ac academaidd i fyfyrwyr y Chweched Dosbarth.

Mae yna focs cymorth wedi'i lleoli mewn lle anymwthgar yn Ganolfan y Chweched ble gall myfyrwyr llenwi cerdyn a gofyn am gymorth (academaidd neu fugeiliol). Mae'r tîm bugeiliol wedi'i lleoli yn Ganolfan y Chweched ble gall disgyblion cael mynediad atyn nhw ar unrhyw amser.

Y Swyddog Diogelu am Disgyblion y Chweched Dosbarth yw Mr Stephen Hagget

Sixth Form Pastoral Team (ID 1469)

Sgwrs Fugeiliol

Gallwch hefyd llenwi'r ffurflen fer isod i mewn os ydych eisiau sgwrs fugeiliol neu os ydych chi eisiau i'ch plentyn cael sgwrs fugeiliol!

Please complete all fields marked (*)

Rhowch wybod i ni pam mae angen i chi gysylltu / Let us know why you need to get in touch

 

 

Strip Strip