Quick Links

Quick Links Open/Close

Ysgol Dyffryn Aman

  • Search this websiteSearch Site
  • Instagram Instagram
  • Translate the contents of this page Translate Page
  • Facebook Facebook
Cymraeg English
Strip

Prydau Ysgol am Ddim

×

Prydau Ysgol am Ddim

A allwch chi fod yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim am eich plant / plentyn?

Sut ydw i'n wneud cais am Brydau Ysgol am Ddim?

Dylai pob cais cael ei wneud i'r awdurdod lleol ble lleolir yr ysgol. Felly, am blant sy'n mynychu Ysgol Dyffryn Aman, mae rhaid gwneud pob cais i'r Adran Addysg, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd sy'n rhan o'r Cyngor Sir Gar.

I wneud cais am Brydau ysgol am Ddim gallwch:

  • Galw (01267) 246526 a fydd ffurflen yn cael ei anfon atoch chi, NEU
  • Anfon e-bost at freeschoolmeals@carmarthenshire.gov.uk gyda'ch enw a chyfeiriad a fydd ffurflen yn cael ei anfon atoch chi
  • Mae rhaid i chi gwblhau'r ffurflen os ydych chi eisiau wneud cais am Brydau Ysgol am Ddim 

Buddion o Wneud Cais am Brydau Ysgol am Ddim

Os ydych yn gymwys bydd eich plant / plentyn yn derbyn prydau ysgol am ddim a gall eich ysgol cael mynediad at nawdd a fydd yn ei galluogi nhw i ddarparu rhaglenni cymorth wedi'u targedi, prynu cyfarpar ac adnoddau ayyb.

Os oes gwell gan eich plant / plentyn cymryd bocs bwyd neu wneud trefniadau arall, mae'n dal pwysig i gofrestru am Brydau Ysgol am Ddim er mwyn i'r ysgol cael mynediad at nawdd am y cymorth wedi'i targedi.

Bydd disgyblion sydd wedi derbyn Prydau Ysgol am Ddim hefyd yn gallu gwneud cais am nawdd LCA (addysg ol-16).

Strip Strip