Quick Links

Quick Links Open/Close

Ysgol Dyffryn Aman

  • Search this websiteSearch Site
  • Instagram Instagram
  • Translate the contents of this page Translate Page
  • Facebook Facebook
Cymraeg English
Strip

Gyrfaoedd ac Addysg yn Ymwneud a8217r Gweithlu

×

Gyrfaoedd ac Addysg yn Ymwneud a'r Gweithlu

 Cyflwyniad

Rydym yn gweithio'n agos a Gyrfaoedd Cymru ac wedi datblygu rhaglen ddyfeisgar sy'n cefnogi disgyblion ar ei deithiau o Flwyddyn 7 - 13, wrth iddynt ddatblygu sgiliau ac yn dod yn ymwybodol o gyfleoedd am ei gyrfaoedd eu hunain yn y dyfodol. 

Mae nifer o staff yr ysgol yn rhoi cyfarwyddyd ar gyfer gyrfaoedd o dan arweiniad un o'n Prifathrawon Cynorthwyol, Mr Chris Davies. Mae tîm yr ysgol yn cydweithio'n agos ag ein Hymgynghorwr Gyrfaoedd, Miss Nerys Howell, sy'n gwasanaethu'r Ysgol ac yn helpu i sicrhau rhaglen eang o Addysg Yrfaoedd. Yn ychwanegol, mae'r Ymgynghorwr ar gael i gyfweld disgyblion yn unigol pryd bynnag y mae'n addas.  

Yn ddiweddar, mae’r ysgol wedi datblygu rhaglen Gyrfaoedd arloesol ar gyfer Blwyddyn 10 lle mae disgyblion yn cael eu paru â busnesau lleol i ymgymryd â phrosiectau datrys problemau. Mae hyn wedi bod yn llwyddiannus iawn ac mae gweld disgyblion yn ymwneud â dylunio, marchnata a chynhyrchu mewn ystod eang o sefydliadau ac yn cefnogi pobl mewn gwasanaethau cyhoeddus 

Yn ogystal, mae’r ysgol yn cael ymweliadau rheolaidd gan fusnesau lleol fel rhan o fenter Syniadau Mawr Gymru sy'n rhoi cyfle i ddisgyblion ddod i adnabod ystod eang o ddiwydiannau a sgiliau menter. Mae hyn yn arwain at yr ymweliad  blynyddol â ffair yrfaoedd Sir Gaerfyrddin, ac anogir pob disgybl ym Mlwyddyn 10 i fynychu 

Mae'r ysgol wedi'i hachredu gyda'r Marc Gyrfaoedd Cenedlaethol. 

 

 Dolenni Defnyddiol

Rydm yn flin, ond does dim dolenni eto.

Calendr CWRE

Sorry, there are no current diary dates.

 

 

 

Strip Strip