Quick Links

Quick Links Open/Close

Ysgol Dyffryn Aman

  • Search this websiteSearch Site
  • Instagram Instagram
  • Translate the contents of this page Translate Page
  • Facebook Facebook
Cymraeg English
Strip

Cymraeg

×

Cymraeg

Cymraeg yn y Cwricwlwm Ysgol

Dysgwn Cymraeg fel testun i bob disgybl hyd at ddiwedd Blwyddyn 11. Dysgir mewn grwpiau a ffurfir yn ôl cefndir ieithyddol naturiol a gallu'r disgyblion, naill ai fel iaith gyntaf neu ail iaith. Gall disgyblion o EAL (Saesneg fel Iaith Ychwanegol) cael eu eithrio o astudio Cymraeg os mae'n briodol iddyn nhw gael gwersi ychwanegol Saesneg. 

Yn dilyn mynediad i'r ysgol, mae disgyblion yn cael eu dosbarthu i ddosbarthiadau cyfrwng Cymraeg neu Saesneg yn dibynnu ar eu cefndiroedd ysgol gynradd. Bydd disgyblion mewn dosbarthiadau cyfrwng Cymraeg yn cael eu dysgu trwy'r cyfrwng Cymraeg mewn pob pwnc ond am Saesneg a Gwyddoniaeth. O ran Mathemateg, gall rhieni plant mewn dosbarthiadau cyfrwng Cymraeg dewis iddynt astudio mewn Cymraeg neu Saesneg. 

Mae'r disgyblion hynny sydd am astudio pynciau trwy'r cyfrwng Cymraeg amrediad o bynciau i ddewis oddi wrth, sef: Ieithoedd Modern, Mathemateg, Daearyddiaeth, Hanes, Addysg Grefyddol, Drama, Celf, Cerddoriaeth, Addysg Gorfforol, Gemau, Technoleg, a Thechnoleg Gwybodaeth.  

Bwriedir cynnig mwyafrif y pynciau hyn hyd at Safon Uwch trwy gyfrwng y Gymraeg.  

Bydd y Rhaglen Fugeiliol (PSE) i ddisgyblion sy'n astudio pynciau trwy'r Gymraeg hefyd yn yr iaith honno.  


Ysgol ddwyieithog yn hyrwyddo ein treftadaeth Gymreig

Mae'r Ysgol yn ceisio adlewyrchu a chryfhau natur dwyieithog yr ardal. Fel rhan o hyn, mae'r Ysgol yn gweithio tuag at achrediad Siarter Iaith gan y Llywodraeth Gymraeg. Nod y Siarter Iaith yw cynyddu'r defnydd o Gymraeg gan bobl ifanc yn yr ysgol a'r gymuned. Mae'r ysgol yn ymrwymedig i sicrhau fod:

  • yna ethos clir Cymraeg mewn pob rhan o fywyd ysgol, er enghraifft: mewn gwasanaethau, gweithgareddau allgyrsiol ac mewn cysylltiadau ffurfiol ac anffurfiol rhwng staff a disgyblion, ble mae'n briodol.
  • holl rhanddeiliaid yr Ysgol yn gweithio gyda'i gilydd i hyrwyddo'r iaith Gymraeg a gweithredu'r Siarter Iaith.
  • yna ymwybyddiaeth glir gan ddisgyblion o'r hunaniaeth ddiwydiannol a threftadaeth Gymru.
  • datblygu Cymreictod yn chwarae rhan ganolog yn ein system arwain disgybl fel bod disgyblion wrth wraidd gwneud penderfyniadau. 

Mae gwasanaethau a gweithgareddau ysgol arall yn ddwyieithog yn arferol. Mae'r Gymraeg yn sylfaen i lawer o weithgareddau allgyrsiol, a ddefnyddir hi'n helaeth mewn cyswllt ffurfiol ac anffurfiol rhwng staff a disgyblion, pan fo modd. Bydd pob cyswllt rhwng yr ysgol i rieni yn ddwyieithog. 

Strip Strip