Quick Links

Quick Links Open/Close

Ysgol Dyffryn Aman

  • Search this websiteSearch Site
  • Instagram Instagram
  • Translate the contents of this page Translate Page
  • Facebook Facebook
Cymraeg English
Strip

Bywyd Myfyrwyr

×

Bywyd Myfyrwyr

Bywyd gweithredol a bywiog sydd gan gymuned y Chweched. Ynghyd a safonau ac addysgu academaidd gwych, rydym yn annog myfyrwyr i gymryd rhan mewn pob agwedd o fywyd ysgol ac i gymryd rhan mewn cymaint o weithgareddau cyfoethogi ag y gallant. Mae'r tudalen hwn yn rhoi cipolwg i mewn i rai o'r gweithgareddau gall myfyrwyr Chweched Dosbarth YDA cymryd rhan mewn. 

Canolfan y Chweched

Rydym yn falch iawn o'n Canolfan y Chweched, wedi'i adnewyddu'n llwyr yn Medi 2023, mae'n rhoi llefydd i fyfyrwyr astudio'n dawel, ymlacio a sgwrsio ynghyd a llyfrgell prosbectws prifysgol lawn a llyfrgell academaidd sy'n tyfu. Rydym hefyd yn manteisio o gyfleusterau toiled i'r Chweched yn unig, dwy ystafell gyfrifiadurol wedi'u cyfarparu'n llawn ynghyd a dau droli llyfr crôm. Mae disgyblion y Chweched hefyd yn trefnu ac yn rhedeg siop fwyd eu hun o'r Canolfan. 

 

 

Arweinyddiaeth Ysgol

Mae'r Chweched Dosbarth yn cymryd cyfrifoldeb sylweddol am arweinyddiaeth ar draws yr ysgol. Pob blwyddyn mae 10 myfyriwr yn cael ei ethol fel aelodau o'r Senedd Ysgol ac yn dilyn proses gyfweliad trylwyr mae dau yn cael ei phenodi fel Prif Swyddogion. 

Mae'r Senedd yn rhedeg pob agwedd o'r rhaglen arweinyddiaeth ysgol gan gynnwys capteinio'r llysoedd, arwain ar ardaloedd allweddol, arwain gwasanaethau, mynychu cyfarfodydd y llywodraethwyr a chynrychioli'r ysgol. 

Elusen a Chodi Arian

Cyfraniad sylweddol mae myfyrwyr y Chweched Dosbarth yn wneud i ddigwyddiadau elusennol ysgol, trefnu digwyddiadau am Comic Relief a Phlant Mewn Angen ynghyd ac elusennau lleol, er enghraifft Joseph's Smile. Pob blwyddyn mae pedwar elusen yn cael ei dewis fel elusennau enwebedig llys, gallwch ddarganfod fwy o fanylion amdano hyn yma.

Cynllunio am y Dyfodol a Sesiynau Bugeiliol

Trwy gydol y flwyddyn rydym yn cael ystod eang o siaradwyr ar bynciau er enghraifft gyrfaoedd, UCAS, Cyllid Myfyrwyr, gyrru'n ofalus, cymorth cyntaf ynghyd a ffug gyfweliadau blynyddol am bob myfyriwr. 

Celfyddydau a Drama

Myfyrwyr y Chweched Dosbarth sy'n rhedeg yr Eisteddfod Ysgol flynyddol, gan gynnwys trefnu timoedd, cystadleuwyr a digwyddiadau. Maen nhw'n arwain mewn bob agwedd o'r Eisteddfod ac mae'n rhan gystadleuol iawn o dymor olaf y flwyddyn!

Mae disgyblion y Chweched hefyd yn cefnogi gydag elfennau technegol o'r sioeau ysgol ac yn cymryd rolau arweiniol ynddyn nhw yn rheolaidd!

Chwaraeon

Rydym yn falch iawn o'n Hacademi Rygbi. Cymera disgyblion sy'n rhan o'r Academi WRU rhan mewn ymarfer dyddiol a rhaglen ffitrwydd ac yn cynrychioli'r ysgol mewn gemau.

Mae myfyrwyr y Chweched Dosbarth hefyd yn cymryd rhan mewn (ac yn aml yn arwain) y timau cyntaf hoci, pêl-droed, criced, a phêl-rwyd ysgol ac yn ffurfio craidd tîm rasio sgïo’r ysgol. Mae nifer hefyd yn cymryd rol arweinyddol wrth hyfforddi disgyblion ifancach. 

Yn ddiweddar, mae aelodau o'r Chweched wedi cynllunio, trefnu, sefydlu a hyfforddi'r timau criced pêl galed i ferched cyntaf. 

Cystadlaethau

Mae myfyrwyr y Chweched yn cystadlu mewn cystadlaethau academaidd yn rheolaidd. Mae hyn yn cynnwys cystadlaethau celf, ysgrifennu'n creadigol, a'r cystadlaeth Peirianneg blynyddol lle rydym wedi cael llwyddiant sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.

Ymweliadau Addysg a Gweithgareddau

Trwy gydol y flwyddyn rydym yn wneud sawl taith addysgol. Mae hyn yn cynnwys teithiau blynyddol i Brifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Rhydychen, ynghyd ac ymweliadau i ffeiriau UCAS ac ein taith siopa Nadolig blynyddol i Gaerdydd. 

Un o'r uchelbwyntiau i nifer o ddisgyblion yw'r Daith Sgïo Hŷn blynyddol lle rydym wedi teithio i'r Eidal, Awstria, a Norwy dros y sawl flwyddyn ddiwethaf!

 

 

 

Sixth Form Student Life

 

M
Strip Strip